Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Maes Dysgu a Phrofiad Celfyddydau Mynegiannol

Gall natur ddeinamig y celfyddydau mynegiannol ysgogi ac ennyn diddordeb dysgwyr a’u cymell i ddatblygu i’r eithaf eu sgiliau creadigol ac artistig ynghyd â’u sgiliau perfformio. 

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn cwmpasu pum disgyblaeth, sef celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol. Er bod gan bob un o’r disgyblaethau hyn gorff o wybodaeth a corff o sgiliau sy’n perthyn yn benodol i’r ddisgyblaeth honno, cydnabyddir eu bod, gyda’i gilydd, yn rhannu’r broses greadigol.

Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi’i fynegi mewn tri datganiad, sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.