Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Disgwyliadau Presenoldeb

Ystyrir presenoldeb rheolaidd yn bwysig iawn yn Ysgol Caer Elen. Os nad yw disgybl yn bresennol yn yr ysgol, ni all ddysgu na chyrraedd ei wir botensial. Am y rhesymau hyn, rydym yn annog rhieni/gwarchodwyr i beidio â threfnu gwyliau yn ystod tymor yr ysgol.

Ein nod yw cael y graddau presenoldeb uchaf posib ar gyfer ein disgyblion. Ceir rhesymau dilys a chyfiawn ar adegau wrth gwrs pan na all disgybl fynychu’r ysgol, ond mae gennym systemau yn eu lle i fonitro ac ymchwilio i absenoldebau ar draws yr ysgol. Mae ein polisi presenoldeb yn amlinellu ein hymarfer a’n trefniadau er mwyn cynnal lefel uchel o bresenoldeb. Os yw eich plentyn yn absennol, cysylltwch â Llinell Absenoldeb yr ysgol.

Disgwyliwn i rieni/gwarchodwyr:

  • annog eu plant i fynychu’r ysgol yn rheolaidd
  • sicrhau eu bod yn cysylltu â’r ysgol pan fo’u plentyn yn/wedi methu mynychu’r ysgol
  • sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd yr ysgol ar amser ac wedi paratoi’n addas ar gyfer y dydd
  • cysylltu â’r ysgol pan fydd unrhyw broblem a allai gadw eu plentyn o’r ysgol.

Disgwyliwn y canlynol gan ein disgyblion:

  • y byddant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd
  • y byddant yn cyrraedd ar amser ac wedi paratoi yn addas ar gyfer y dydd
  • y byddant yn hysbysu aelod o’r staff o unrhyw broblem a all eu rhwystro rhag mynychu’r ysgol.