Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni

Mae Adran 94 y Ddeddf safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (y Ddeddf) yn gwneud newidiadau pwysig i’r trefniadau deddfwriaethol blaenorol oedd yn ymwneud â Chyfarfodydd Blynyddol y Rhieni/Llywodraethwyr.  Mae’n darparu trefniadau newydd lle gall rhieni ofyn am gyfarfod gyda chorff llywodraethol. 

Fodd bynnag, bydd angen i’r rhieni fodloni pedwar (4) gofyniad statudol wrth alw cyfarfod sef:-

  • (i) rhaid i rieni 10% o’r disgyblion cofrestredig, neu rieni 30 o’r disgyblion cofrestredig (pa bynnag sydd isaf) arwyddo deiseb yn gofyn am gyfarfod;
  • (ii) rhaid mai diben y cyfarfod yw trafod materion sy’n ymwneud a’r ysgol;
  • (iii) y nifer fwyaf o gyfarfodydd y gall rhieni ofyn amdanynt o fewn unrhyw flwyddyn ysgol yw tri (3);
  • (iv) rhaid bod yna ddigon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol i ganiatáu cyfarfod; 

At hynny:-

  1. a) rhaid cynnal y cyfarfodydd cyn diwedd cyfnod o 25 niwrnod;
  2. b) mae’r cyfnod o 25 niwrnod yn cychwyn y diwrnod ar ôl derbyn y ddeiseb, ond nid yw’n cynnwys unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod ysgol;
  3. c) os oes angen cynnal cyfarfod arall o ganlyniad i ddeiseb wahanol, ni fydd y cyfnod o 25 niwrnod yn dechrau tan y diwrnod ar ôl cynnal y cyfarfod arall;

(ch)  rhaid bod digon o ddyddiadau ar ôl yn y flwyddyn ysgol i gynnal cyfarfod cyn diwedd y cyfnod o 25 niwrnod;

(d)   bydd cyfarfodydd yn agored i holl rieni’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, y Pennaeth ac unrhyw un arall a wahoddir gan y corff llywodraethol;

(dd) mae’n rhaid i hysbysiad y cyfarfodydd i’r rhieni gynnwys dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod ynghyd a’r mater neu faterion i’w trafod.

Bydd angen i gyrff llywodraethu roi gwybod i’r rhieni yn flynyddol am yr hawl i ddeisebu cyfarfod trwy ddefnyddio’r pwerau a ddarperir gan Adran 94.