Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Yr Amgylchedd Dysgu

Mae creu amgylchedd dysgu ysgogol a symbylol yn flaenoriaeth yng Nghaer Elen boed tu fewn neu du allan i’r ystafell dosbarth. Mae athrawon yr Ysgol yn ceisio sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn le symbylus, ysgogol a ddiogel lle mae disgyblion yn teimlo’n barod i fentro, yn dysgu sut i fethu a goroesi a dathlu llwyddiant.

CAM CYNNYDD 1 A 2

Yng ngham cynnydd 1 a 2 ceir ardaloedd dysgu tu fewn a thu allan. Mae’r ddarpariaeth barhaus yn cynnwys nifer o ardaloedd sydd yn ennyn chwilfrydedd a diddordeb y disgyblion. Yn yr un modd, mae darpariaeth yn cael ei gyfoethogi gydag adnoddau cyfoes sydd yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau’r disgyblion. Enghraifft o’r ardaloedd gwelir yma yw:

  • Tu fewn - Miri Marciau, Den Digidol, Stondin Sgriblo a’r ardal darganfod.
  • Tu allan - Patch Palu, Llwyfan Llawen, Stordy iaith a cherdd. 

CAM CYNNYDD 3

Yng ngham cynnydd 3 rennir yr ystafelloedd dosbarth mewn i ardaloedd dysgu ysgogol a diddorol. Caiff disgyblion y cyfle i weithio yn annibynnol ac fel rhan o grwpiau ffocws. Mae’r disgyblion yma hefyd yn cael y cyfle i ddefnyddio adnoddau megis y Den Digidol, ystafelloedd Coginio, y labordai Gwyddoniaeth a’r Neuadd Chwaraeon. Enghraifft o’r ardaloedd gwelir yma yw:

  • Tu fewn - Lloches Llythrennedd, Rhanbarth Rhifedd, Ynys Ymchwilio a Chwtsh Creadigol. 

CAM CYNNYDD 4 a 5

Er mwyn sicrhau cysondeb a chontinwwm dysgu ac addysgu effeithiol, mae Athrawon Cam Cynnydd 4 a 5 wedi cymhwyso’r syniad o arddangosfeydd rhyngweithiol. Ceir amryw o arddangosfeydd sydd yn hyrwyddo’r 4 diben, sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ynghyd ag arddangosfa sy’n annog ymchwil a chwilfrydedd y disgyblion.