Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Dysgu ac Addysgu 

 CAM CYNNYDD 1 (MEITHRIN a DERBYN) a 2 (BLWYDDYN 1, 2 a 3)

 

Yng ngham gynnydd 1 a 2 mae’r athrawon yn cynllunio’n thematig ac yn defnyddio llais y disgybl i liwio’r testunau. Yma, mae ffocws ar ddatblygu dysgwyr annibynnol a chwilfrydig gydag amryw o weithgareddau tu fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae ffocws ar sicrhau amgylchedd dysgu cartrefol ac ysgogol sy’n ennyn diddordeb a chwilfrydedd y disgyblion ac yn datblygu eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth. Mae nifer o ardaloedd dysgu gwahanol o fewn y ddarpariaeth barhaus sy’n cael ei addasu a chyfoethogi yn unol â’r testun dan sylw a’r thema e.e. y den digidol neu’r ardal bysedd bach. Bydd y disgyblion yn gweithio’n annibynnol, gyda’r athro fel rhan o’r grŵp ffocws neu gyda’r cynorthwywyr er mwyn ffynni. Ym mlwyddyn 1 a 2 rydym yn cyflwyno heriau dosbarth lle caiff y disgyblion cyfle i weithio’n annibynnol i wynebu a threchu heriau a datrys problemau.

 

CAM CYNNYDD 3 (BLWYDDYN 4, 5 a 6)

 

Yng ngham gynnydd 3 mae’r athrawon hefyd yn cynllunio yn thematig gyda ffocws ar ddatblygu sgiliau trawsgwricwlaidd y disgyblion. Mae ffocws ar y 6 Maes Dysgu a Phrofiad wrth gynllunio gyda chyfleoedd cyson i gasglu barn a llais y disgyblion. Yn y dosbarth bydd y disgyblion yn cael cyfle i weithio’n annibynnol wrth gwblhau heriau dosbarth neu fel rhan o’r grwpiau ffocws gyda’r athrawon neu’r cynorthwywyr. Mae’r dosbarthiadau yn cynnwys ardaloedd dysgu penodol fel rhan o’r ddarpariaeth barhaus sy’n herio ac yn annog y disgyblion i weithio’n annibynnol a bod yn chwilfrydig e.e. Yr ynys ymchwilio neu’r rhanbarth rhifedd.

 

CAM CYNNYDD 4 (BLWYDDYN 7, 8 a 9)

 

Caiff gwersi Y Dyniaethau, Celfyddydau Mynegiannol a Iechyd a Lles ei gynnwys ar amserlenni disgyblion blwyddyn 7 ac 8 Ysgol Caer Elen. Yn yr un modd, mae Iechyd a Lles yn faes ar amserlenni blwyddyn 9 a 10. Mae’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cydweithio ar unedau cyffrous yng Ngham Cynnydd 4 er mwyn sicrhau addysg o’r safon uchaf a gwaith perthnasol a chyffrous. Ceir ffocws ar integreiddio’r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd ar draws y cwricwlwm ynghyd â chynnig profiadau cyfoethog tu fewn a thu allan i’r ystafell dosbarth.

 

CAM CYNNYDD 5 (BLWYDDYN 10 ac 11)

 

Ymfalchïa’r Ysgol yn y ffaith ein bod ni yn medru cynnig amrywiaeth eang o bynciau TGAU cyffrous i’r disgyblion. Mae gennym dîm o athrawon gweithgar a phrofiadol sy’n gweithio’n ddiflino er mwyn cynnig y profiadau dysgu gorau i’r disgyblion.

Mae’r Ysgol yn paratoi a chefnogi’r disgyblion drwy’r broses o ddewis pynciau opsiwn ym mlwyddyn 10. Ceir gwasanaethau a chyflwyniadau, nosweithiau agored a rhieni ynghyd â’r Llawlyfr Cyrsiau CA4 er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn hyderus wrth ddewis y pynciau sydd yn gywir ac yn addas iddynt hwy.