Ysgol Caer Elen

Daw derwen o fesen fach

Ethos yr Ysgol

Gan fod yr ysgol yn ysgol swyddogol ddwyieithog, disgwylir i rieni a disgyblion fod yn frwd dros addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwyliwn i’r disgyblion ddangos parch a balchder yn yr Iaith Gymraeg drwy ddefnyddio’r iaith yn rheolaidd tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth. Ceisiwn ennyn balchder yn y disgyblion tuag at iaith, diwylliant, hanes a threftadaeth Cymru.

Byddwn yn gwneud ein gorau i feithrin ymdeimlad o barch yn y disgyblion at bobl ac at eiddo pobl fel bod gennym gymdeithas wâr a goddefgar. Ceisiwn hefyd feithrin rhinweddau personol yn y disgyblion megis cwrteisi, gonestrwydd, dyfalbarhad ac ymdeimlad o gydwybod.

Pwysleisir y pwysigrwydd o ddarparu cyfleoedd i bob plentyn beth bynnag ei allu, ei ryw, ei oedran neu ei gefndir ieithyddol.

Cynhelir safonau disgyblaeth uchel yn yr ysgol a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ymddangosiad ac ymddygiad disgyblion. Credwn mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddisgyblu yw drwy feithrin hunanddisgyblaeth ac agwedd gyfrifol ymhlith disgyblion.

Mae awyrgylch deuluol yn perthyn i’r ysgol gyda chydweithrediad a chyd-dynnu agos rhwng y staff (yn athrawon, staff gweinyddol, staff y gegin), y disgyblion a’r rhieni/gwarchodwyr. 

Rydym yn gobeithio gweld yr ysgol yn datblygu’n ysgol gymunedol gyda’r gymuned yn gwneud defnydd helaeth o’r ysgol yn yr hwyr a’r ysgol yn defnyddio’r gymuned fel ffynhonnell i gyfoethogi addysg y plant.