Croeso i Gymuned Caer Elen

Ers i ni agor ein drysau yn 2018, mae Ysgol Caer Elen wedi datblygu i fod yn ysgol pob oed 3-16 llwyddiannus. Anelwn at ddatblygu cymuned ddysgu lle mae llywodraethwyr, staff (athrawon, staff gweinyddol, staff cymorth, staff y gegin a glanheuwyr), disgyblion a rhieni/gofalwyr yn cydweithio’n bwrpasol.

Mae’r ysgol wedi’i lleoli yng nghanol Sir Benfro – sir unigryw ac amrywiol sydd yn enwog am ei threftadaeth, ei diwylliant a’i hanes. Defnyddiwn y cysyniad o ‘Cynefin’ fel sail ar gyfer datblygu ein cwricwlwm gan sicrhau bod ein disgyblion yn gwerthfawrogi godidowgrwydd Sir Benfro. Mae’r gymuned leol yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ni gyfoethogi addysg ein disgyblion. Yn yr un modd mae grwpiau a chymdeithasau amrywiol o'r ardal leol yn defnyddio'r cyfleusterau'n helaeth gyda'r nos.

Mae ein campws modern sydd yn cynnwys cyfleusterau ‘o’r radd flaenaf yn ein galluogi i gynnig amgylchedd dysgu sydd yn ysbrydoli ac yn cefnogi dysgu ein disgyblion. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd di-ri i ddatblygu eu medrau mewn ystafelloedd addysgu ysgogol. Maent hefyd yn cael cyfleoedd i wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth yn yr ardaloedd dysgu allanol.

Rhoddwn bwyslais ar ddarparu cyfleoedd cyfartal i’r holl ddisgyblion gwaeth beth fo’u gallu, rhyw, oedran, cefndir crefyddol neu ieithyddol. Rydym yn meithrin rhinweddau personol megis cwrteisi, gonestrwydd, dyfalbarhad a gwytnwch ymhlith eraill. Mae hyn yn golygu bod ein disgyblion yn parchu pobl ac yn parchu amgylchedd dysgu'r ysgol. Maent yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o sicrhau bod Ysgol Caer Elen yn gymuned hapus, ddiogel, cynhwysol a chefnogol.

Ysgol Caer Elen

Gair gan y Pennaeth

Mr Dafydd Hughes

Pennaeth

Ein nod yw i ddatblygu ysgol arloesol 3-16 a fydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf. Gweithiwn yn ddi flino er mwyn gosod y seiliau sydd eu hangen er mwyn creu continwwm addysgeg a lles effeithiol a fydd yn caniatau i Ysgol Caer Elen i weithredu fel ysgol pob oed llwyddiannus.

Rydym yn benderfynol o sicrhau bod disgyblion a staff yn Ysgol Caer Elen yn cael y cyfle i ffynnu ac yn cyfrannu’n llawn tuag at y broses o greu ysgol sydd yn sefydliad sydd yn dysgu. Mae’r ysgol yn gynhwysol ac mae ein hethos yn seiliedig ar y gwerthoedd craidd o garedigrwydd, tegwch, cefnogaeth, parch a dyfalbarhad. Cydnabyddwn y gallwn, wrth gydweithio a chefnogi ein gilydd, wireddu ein hamcanion. Mae’r ysgol yng nghalon y gymuned ac mae’r cysyniad o ‘Gynefin’ yn dylanwadu ar holl agweddau ein gwaith cynllunio.

Gyda chyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022 rydym yn benderfynol yn Ysgol Caer Elen o sicrhau ein bod yn cyflwyno egwyddorion y cwricwlwm yn llwyddiannus. Mae’r rhaglenni dysgu a gynigir ar draws yr ysgol o fewn pob Maes Dysgu a Phrofiad yn galluogi pob plentyn i ffynnu yn ddiwylliannol, yn emosiynol ac yn academaidd. Wrth i’r disgyblion ddilyn y llwybrau dysgu yma byddant yn datblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn iach ac yn hyderus, yn fentrus ac yn greadigol, yn egwyddorol a gwybodus. Bydd disgyblion yr ysgol hefyd yn cael eu cefnogi er mwyn iddynt allu datblygu eu sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd. Ein nod yw helpu pob dysgwr sydd yn gadael yr ysgol i ffynnu yn y byd sydd ohoni.

Mae pob disgybl yn bwysig fel unigolyn, a phob unigolyn yn bwysig fel aelod o ‘deulu’ Ysgol Caer Elen. Yr egwyddor hon o barchu’r unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yn y canol sydd wrth wraidd ein gwaith dyddiol.

Adroddiadau Arolygiad Estyn

Ein Hysgol Ni

Prosbectws yr Ysgol

2023 - 2024

Ymunwch â Ni

SWYDDI PRESENNOL

Ymddiheuriadau, nid ydym yn recriwtio i unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd

Byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â'n Cronfa Dalent fel y gallwn gysylltu â chi pan fydd y swydd wag cywir yn codi.

Cronfa Dalent

Cofrestrwch eich diddordeb i ymuno â'n tîm

Os ydych chi'n chwilio am eich swydd nesaf ym myd addysg, cysylltwch â ni. Byddwch chi'n gweithio i gyflogwr gwych ac yn rhan o dîm cyfeillgar a chymwynasgar. Mae diddordeb gennym bob amser glywed gan weithwyr proffesiynol addysg brwdfrydig, ymroddedig – felly anfonwch eich CV atom nawr drwy ein Cronfa Dalent a nodi pa fath o rôl rydych chi'n chwilio amdani. Drwy ymuno â'n Cronfa Dalent byddwn ni'n gwybod bod gennych ddiddordeb gweithio yma pan fydd y swydd gywir yn codi.

Lleoliad yr Ysgol

Lleoliad yr Ysgol

Lleoliad yr Ysgol
Swavesey
Cambs
CB24 4RS